#

 

 

 

 

 


Crynodeb o'r dystiolaeth

Ar 26 Ionawr 2017 , cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddigwyddiad gyda rhanddeiliaid i gael eu barn fel rhan o waith craffu'r Pwyllgor ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Daeth tua 80 o bobl i'r digwyddiad, gan gynnig amrywiaeth o safbwyntiau yn cynnwys, ymhlith pethau eraill: y trydydd sector, llywodraeth leol, y GIG, ysgolion a cholegau, undebau'r athrawon, a rhieni. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar chwe phrif bwnc, sy'n strwythur i'r papur hwn.

Crynodeb o'r pwyntiau allweddol a godwyd yn y digwyddiad yw’r ddogfen hon. Nid yw'n rhestr gynhwysfawr o'r holl sylwadau a wnaed gan y cyfranogwyr, ac nid yw'n golygu bod pawb a oedd yn bresennol yn cytuno'n unfrydol ar bob pwynt. Ei bwriad yw rhoi darlun cyffredinol o'r safbwyntiau a fynegwyd gan y rhanddeiliaid.

Nid sylwadau gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad yw'r isod ond maent yn aralleirio'r hyn a ddywedodd y cyfranogwyr.

1.       Safbwyntiau cyffredinol

§    Mynegodd y rhanddeiliaid gefnogaeth gyffredinol i nodau'r Bil ond roeddent yn rhybuddio bod angen mwy o eglurder a thryloywder, er enghraifft sut y bydd y Bil yn ateb problemau cyfredol.

§    Mae rhanddeiliaid yn croesawu'r Bil yn gyffredinol, ond maent yn ei chael yn anodd ei ddeall neu graffu arno'n llawn heb y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

§    Mae angen i'r system ADY newydd fod yn gynhwysol ac adlewyrchu cymdeithas gynhwysol.

§    Mae angen mwy o eglurhad ynghylch rolau'r rheini sy'n ymwneud â rhoi'r system newydd ar waith.

§    Dylai'r holl weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â dysgwyr ag ADY gael mwy o hyfforddiant, hyd yn oed y rheini nad oes ganddynt rôl addysgu amlwg (rhoddwyd yr enghraifft o staff sy'n gweini cinio ysgol). Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid yn cydnabod nad yw hyn bob amser yn bosibl oherwydd adnoddau.

§    Roedd y cyfranogwyr yn cytuno â chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru nad yw'r system yn addas i'r diben. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o wahaniaeth barn ynghylch a yw'r system 'wedi torri' neu nad yw'n gweithio oherwydd nad yw'n cael ei rhoi ar waith yn iawn.

2.       Gosod Cynlluniau Datblygu Unigol yn lle'r system tair haen bresennol ar gyfer pob dysgwr ag ADY

2.1     Pwyntiau cyffredinol

§    Nid yw'r system gyfredol yn deg. Yn aml, mae angen datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ar blentyn er mwyn cael cymorth a ffocws priodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i rieni 'frwydro' i gael datganiadau, a bod y rheini nad oes ganddynt  yr amser, yr hyder a'r adnoddau angenrheidiol i wneud hynny ar eu colled. Awgrymodd y rhanddeiliaid  bod hyn yn mynd yn groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

§    Mae'r Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn gysyniad gwych a’r gobaith yw y dylai roi'r ffocws ar 'anghenion' yn hytrach na diagnosis. Mae dull gweithredu ar sail anghenion i'w groesawu. Fodd bynnag, mae angen cynllunio digonol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, neu bydd y CDU yn ddim mwy na darn arall o bapur.

§    Dylai cael gwared ar y tair haen helpu i leihau stigma a labelu plant. Mae rhoi terfyn ar y termau 'statementing' a 'having a statement' i'w groesawu, gan fod y rhain yn aml yn cael eu gweld fel stigma.

§    Mewn egwyddor, mae mantais glir o gael system symlach. Fodd bynnag, mae goblygiadau o ran llwyth gwaith i athrawon yn sgîl darparu CDUau statudol ar gyfer nifer fwy o ddisgyblion.

§    Mae angen i'r fframwaith newydd ganolbwyntio'n fwy ar ddeilliannau i ddysgwyr ag ADY.

§    Bydd y broblem yn parhau lle nad yw rhieni'n ymgysylltu neu'n cael yr hyn y maent ei angen. Mae'r Bil yn gyfle i wella pethau ond mae'n rhaid i ni i gyd fod yn realistig; nid oes 'bwled arian' yn bodoli.

2.2     Gallu CDUau i ddiwallu anghenion ar lefelau amrywiol                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                         

§    Mae perygl mewn system heb ei graddio, sy'n cwmpasu disgyblion â chyflyrau sy'n amrywio o ran eu difrifoldeb, y gallai arwain at y rheini sydd â'r anghenion mwyaf ar eu colled o ran y cymorth y mae ei angen arnynt (h.y. os yw adnoddau'n cael eu lledaenu'n rhy denau). Mae’r system tair haen bresennol o leiaf yn cydnabod y gwahaniaethau o ran cymhlethdod yr anghenion. A fydd CDUau yn gallu mynd i'r afael â'r ystod lawn o anghenion, o anghenion cymhleth iawn, i un mater fel dyslecsia?

§    Mae'n bosibl na fydd rhai plant â dyslecsia lefel isel neu ddyspracsia lefel isel angen CDU o reidrwydd. Mae angen i ni fod yn ofalus nad yw'r system yn uwchgyfeirio achosion lle nad oes angen CDU.

§    Mae pryder na fydd CDUau yn opsiwn digon cryf i gymryd lle datganiadau. Mae risg na fydd gan rai rhieni  plant sydd â datganiadau ddigon o hyder mewn CDUau.

§    Nid yw'r diffiniad cyfredol o AAA yn ddigon clir, ac mae hyn wedi arwain at ysgolion ac awdurdodau lleol yn ei ddehongli'n wahanol ac yn darparu cymorth mewn ffyrdd gwahanol. Mae angen diffiniad cliriach o ADY gyda throthwy y mae pawb yn ei ddeall yn glir ac sy'n rhoi'r hawl i ddisgyblion gael cymorth ychwanegol.

§    Efallai bod rhieni'n gyndyn i gofrestru eu plant yn ffurfiol i gael CDU lle mae'n bosibl bod ganddynt broblem datblygiad y blynyddoedd cynnar a fydd yn datrys ei hun yn fuan. Ar y llaw arall, lle mae gan blentyn ifanc CDU ond bod ei anghenion yn y blynyddoedd cynnar yn cael eu datrys, efallai nad yw'r rhieni eisiau rhoi'r gorau i'r CDU er nad oes mo’i angen ar eu plentyn bellach.

§    Mae cyfathrebu'n allweddol. Mae angen i rieni ddeall y gall gorffen CDU fod yn beth da os yw'n golygu nad yw eu plentyn ei angen bellach.

§    Mae'n bwysig bod y system gyffredinol newydd yn gallu ymateb o hyd i anghenion ar lefelau uwch ac y gall ddarparu cymorth wedi'i deilwra. Gall cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn chwarae rhan fawr yn hyn a gall fod yn gam mawr ymlaen. Mae'n bwysig bod y system newydd yn rhoi'r plentyn a buddiannau'r plentyn yn ganolog i bopeth.

§    Mae rhai rhanddeiliaid yn hoffi'r strwythur tair haen presennol gan ei fod yn rhoi mwy o sicrwydd. Maent yn teimlo'i fod yn gyffredinol yn cynnig llwybr mwy eglur wedi'i raddio, a'i bod yn haws gwybod pryd i symud ymlaen i'r 'lefel' nesaf. Pwy fydd yn penderfynu pryd y cyrhaeddir y 'cam' nesaf o dan y system newydd?

§    Mae rhieni'n deall y system tair haen bresennol. Mae cael gwared ar y system tair haen yn debygol o achosi pryder a dryswch.

§    O ran symud dysgwyr o'r system tair haen bresennol i CDUau, mae perygl mai dysgwyr rhwng y tair lefel ar hyn o bryd fydd yr olaf i gael CDU wedi'i lunio ar eu cyfer.

2.3     Y diffiniad o ADY

§    Mae'r diffiniad o ADY yn canolbwyntio'n ormodol ar anghenion addysgol/dysgu, ac mae nifer sylweddol o randdeiliaid yn credu y dylai ADY gynnwys anghenion gofal iechyd hefyd. Dylai unrhyw beth sy'n effeithio ar allu plentyn i ddysgu gael ei gynnwys, felly dylai'r Bil gynnwys anghenion meddygol.

§    Mae rhai rhanddeiliaid yn credu y dylai'r Bil gynnwys dyletswydd statudol i gefnogi anghenion gofal iechyd plant. Dylai plant gael cynllun gofal iechyd statudol yn ogystal â chynllun anghenion dysgu.

§    Mae angen dealltwriaeth briodol o'r gwahaniaeth rhwng gofal iechyd ac anghenion dysgu. Er enghraifft, gallai gweithiwr meddygol proffesiynol adnabod problemau meddygol neu ddatblygiadol ond nid anghenion dysgu, ac i'r gwrthwyneb yn achos gweithiwr addysgol proffesiynol. Byddai swyddogion o'r sectorau iechyd ac addysg yn elwa o gael hyfforddiant ym meysydd ei gilydd.

§    Mae pryder na fydd cyflyrau meddygol fel epilepsi a diabetes yn cael eu cynnwys o dan y Bil. Mae'r system bresennol o ddatganiadau yn ymdrin â'r rhain (hyd yn oed os nad dyna yw'r bwriad). Gallai hyn 'chwalu' y gefnogaeth y mae pobl ifanc yn ei chael ar hyn o bryd ar gyfer eu cyflyrau meddygol. Dywedodd rhai rhanddeiliaid fod cyflyrau meddygol yn 'agwedd enfawr sydd ar goll o'r Bil'.

§    Awgrymwyd fod gan Iwerddon arweiniad clir a manwl iawn ynghylch AAA a chyflyrau meddygol y gallai Cymru ddysgu oddi wrthynt.

§    Mae angen diffiniad cliriach o ADY er mwyn bod yn fwy cyson.

2.4     Templed

§    Ceir cefnogaeth unfrydol i dempled ar gyfer y CDU; fformat safonol ond cynnwys penodol i'r unigolyn.

§    Mae rhanddeiliaid yn credu bod angen cael templed i sicrhau cysondeb ar draws Cymru a hygludedd os bydd dysgwr ag ADY yn symud rhwng ardaloedd awdurdodau lleol. Byddai hefyd yn helpu o ran cysondeb ar draws gwahanol oedrannau a chyfnodau allweddol.

§    Byddai templed hefyd yn arbennig o ddefnyddiol i'r sector iechyd. Mae bwrdd iechyd lleol fel arfer yn gweithio ar draws nifer o ardaloedd awdurdodau lleol felly byddai ymagwedd a thempled cyson yn ddefnyddiol.

§    Nid yw templed yn golygu dull gweithredu sydd yr un fath i bawb; dylai cynnwys CDU fod yn bersonol ac wedi'i deilwra i'r dysgwr unigol ond mewn templed safonol. Mae templed yn rhan hanfodol o wella safon y gefnogaeth.

§    Byddai templed o gymorth i bobl sy'n dilyn y system newydd ac yn ei gwneud yn llawer haws i gyflwyno CDUau.

2.5     Atebolrwydd

§    Mae rhanddeiliaid yn hoffi'r syniad bod rhoi CDU statudol i ddysgwyr ag ADY yn cynnig mwy o ddiogelwch, ond nid oes syniad clir o beth fyddai ffurf CDU. Nid problem newydd y hon. Mae datganiadau AAA plant yn rhy generig ar hyn o bryd. Dywedodd un unigolyn: 'sometimes they are not worth the paper they are printed on'. Mae angen gwella'r system ac mae rhanddeiliaid yn credu bod hyn yn ei hanfod yn fater o ddisgresiwn i awdurdodau lleol sy'n teimlo eu bod yn gallu gwneud beth bynnag y maen nhw eisiau'i wneud.

§    Mae angen mwy o oruchwyliaeth a gwell craffu ac atebolrwydd yn y system ar benderfyniadau'r awdurdodau lleol. Sut bydd perfformiad a llwyddiant yn cael eu mesur a'u monitro?

§    Nid yw'r diwygiadau yn Lloegr wedi gwneud rhyw lawer i wella atebolrwydd. Nid yw'r system newydd yno wedi gwireddu'r addewidion o fwy o atebolrwydd a thryloywder, a’r un yw'r problemau i rieni.

§    Dylai'r hawl i deuluoedd a dysgwyr â phob math o ADY apelio ar y Tribiwnlys helpu i wneud awdurdodau lleol yn fwy atebol o'r cychwyn cyntaf.

§    Mae'r system bresennol yn gymhleth ac yn hir. Fodd bynnag, mae pryder y gallai cael gwared ar haenau gynyddu faint o amser y mae atgyfeiriadau yn ei gymryd.

2.6     Adnoddau

§    Mae'r broses CDU newydd yn seiliedig ar gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn gyffredinol mae rhanddeiliaid yn croesawu hyn, ond bydd angen digon o adnoddau ar gyfer y broses. Mae awdurdodau yn amlwg eisoes o dan straen.

§    Mae adnoddau'n broblem fawr wrth symud o 13,000 i 105,000 o gynlluniau statudol. Yn Lloegr, dim ond y rheini a oedd â datganiadau sydd wedi cael Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflawni rhywbeth mwy uchelgeisiol.

§    Mae pryder ynghylch faint o amser y bydd ei angen i lunio CDUau ar gyfer pob un o'r 105,000 o ddysgwyr sydd yn y system ADY ar hyn o bryd.

§    Dywedodd un Cydlynydd AAA y bydd ei lwyth achosion yn codi o 30 o blant i 250 heb unrhyw obaith o gael adnoddau ychwanegol i gefnogi hyn. Dywedodd athro ysgol gynradd y bydd yn rhaid i'w ysgol i greu 240 o CDUau, a dywedodd cynrychiolydd coleg addysg bellach y bydd yn rhaid iddynt lunio tua 400.

§    Er y bydd CDUau yn amrywio o ran manylder, mae rhanddeiliaid yn ofni y bydd angen llawer mwy o amser nag sydd ei angen ar hyn o bryd i drefnu cyfarfodydd, cynnal y cyfarfodydd hynny, llunio CDUau ac yna'u gweithredu a'u hadolygu.

§    Dywedodd rhanddeiliaid fod gwasanaethau'n cael eu dogni ar hyn o bryd, gyda chefnogaeth i'r rheini y mae arnynt eu hangen fwyaf yn hytrach na phawb y mae arnynt eu hangen. Ni fyddai'r Bil yn newid hyn heb adnoddau ychwanegol.

2.7     Cydlynwyr AAA

§    Bydd gan Gydlynwyr ADY rôl hanfodol o dan y system newydd. Rhaid iddynt fod yn rhydd i ganolbwyntio'n llawn ar eu rôl ac ni ddylai fod ganddynt unrhyw ddyletswyddau addysgu, neu fel arall byddant yn cael eu gorlwytho. Mae angen rhoi statws uwch i rôl y Cydlynydd ADY. Ar hyn o bryd, weithiau nid yw Cydlynwyr AAA yn aelodau o fwrdd rheoli'r ysgol.

§    Mae angen rhagor o arian i feithrin capasiti'r Cydlynwyr ADY. Mae dadl dros y gofynion o ran cymwysterau, er enghraifft a oes gwir angen gradd Meistr. Ni fydd hyn ar ei ben ei hun yn gwarantu'r sgiliau a'r rhinweddau angenrheidiol.

§    Mae angen i rôl Cydlynwyr ADY gael ei diffinio'n glir. Bydd ganddynt rôl bwysig o ran cydlynu CDUau gan na fydd gweithwyr iechyd proffesiynol bob amser yn gwybod beth yw'r arfer gorau o ran cefnogi deilliannau dysgu. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd eu cyswllt â Swyddogion Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig y byrddau iechyd.

§    Gallai cael gwared ar y tair haen wneud tasg Cydlynwyr ADY yn anoddach. Gallai fod yn anoddach iddynt fesur pa mor ddifrifol yw anghenion dysgwyr.

2.8     Asesiadau

§    Dylai'r Bil, neu'r Cod os yw'n fwy priodol, ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol cymwys gynnal asesiadau. Gallai fod llawer o alw am asesiadau newydd wrth drosglwyddo i'r system newydd o CDUau. Bydd angen i'r gweithiwr proffesiynol priodol fod ar gael ar gyfer pob asesiad. Mae goblygiadau mawr o ran capasiti'r gweithlu.

§    Mae angen i asesiadau gael eu cynnal gan rywun sy'n annibynnol ar y sefydliad y byddai disgwyl iddo ariannu unrhyw ddarpariaeth sy'n cael ei chyfrif yn angenrheidiol. Mae hyn er mwyn osgoi gwrthdaro posibl rhwng buddiannau.

§    O safbwynt rhiant, gallai'r datganiad gynnwys llawer o asesiadau, ond wedyn gynnwys ychydig iawn o fanylion am y ddarpariaeth yn y datganiad. Mae angen eglurder ynghylch pwy sy'n gwneud beth.

2.9     Cynnwys rhieni

§    Yn aml, gall rhieni gael eu gadael allan o'r broses o gynllunio rhaglenni cymorth, er gwaetha'r ffaith mai nhw yn aml sy'n gwybod y mwyaf am anghenion eu plentyn.

§    Rhieni yw'r 'ddolen goll', gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud heb eu cyfraniad. Dylai'r broses newydd fynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, bydd angen i hyn fod yn fwy na rhieni'n cael eu hysbysu am benderfyniadau; mae angen iddynt allu chwarae rhan weithredol.

3.       Cyfrifoldeb dros Gynlluniau Datblygu Unigol: Corff llywodraethu neu awdurdod lleol

3.1     Amwysedd

§    Mae diffiniad y Bil o bwy sydd â chyfrifoldeb yn amwys iawn. Mae'n oddrychol iawn ac yn agored i'w ddehongli. Mae hyn yn cadw'r amwysedd presennol: er enghraifft, beth fydd rôl y gweithiwr allweddol?

§    Heb y Cod, mae modd darllen y Bil mewn sawl ffordd wahanol.

§    Mae angen i rolau priodol ysgolion ac awdurdodau lleol gael eu diffinio'n gliriach. Mae angen i ysgolion wybod pryd i gyfeirio achos at yr awdurdod lleol.

§    Mae terminoleg y Bil yn aneglur. Beth yw ystyr 'na all bennu'n ddigonol' neu 'na fyddai'n rhesymol'? (Dyma'r amgylchiadau lle nad yw dyletswyddau ysgolion a cholegau i baratoi a chynnal CDUau yn berthnasol.) Bydd angen egluro'r termau hyn.

3.2     Rhagolygon o fwy o densiwn a herio

§    Mae rhanddeiliaid yn disgwyl y bydd teuluoedd y dysgwyr sy'n cael eu cefnogi ar hyn o bryd o dan y cynllun Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy eisiau trosglwyddo i CDU awdurdod lleol. (Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud cyn hyn ei bod yn rhagweld cydbwysedd tebyg rhwng  nifer y rhai sydd o dan Gweithredu gan yr Ysgol /Gweithredu gan yrYsgol a Mwy a'r rheini sydd â datganiadau i'r cydbwysedd newydd rhwng CDUau ysgol/coleg a CDUau awdurdod lleol.) Mae rhanddeiliaid yn credu y gallai hyn sefydlogi yn y dyfodol ond y bydd cynnydd mewn apeliadau yn y tymor byr ac y bydd pobl eisiau profi'r system yn gyfreithiol.

§    Bydd gwaith ychwanegol i'r awdurdodau lleol o ran adolygu penderfyniadau cyrff llywodraethu ysgolion. Os byddant yn cefnogi penderfyniadau, bydd angen defnyddio adnoddau wrth ymgymryd ag apeliadau.

§    Mae hyn i gyd yn mynd yn groes i'r amcan o dynnu gwrthwynebiad allan o'r broses. Gallai fod yn ganlyniad anfwriadol, a chreu tensiwn rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol.

§    Gallai fod gwrthdaro posibl rhwng buddiannau os mai'r sefydliadau sy'n gyfrifol am ariannu darpariaeth ADY yw'r rhai sydd hefyd yn penderfynu pwy sy'n gymwys i gael cymorth. Mae risg mai'r gyllideb, ac nid y plentyn, fydd y mater pwysicaf i'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau.

3.3     Goblygiadau i ysgolion a cholegau

§    Bydd angen llawer o hyfforddiant ar ysgolion a'u cyrff llywodraethu. Bydd angen hyfforddiant ychwanegol ar athrawon a chynorthwywyr addysgu i sicrhau y gallant nodi ADY ac ymateb iddynt. Dylid cynnwys hyn yn natblygiad proffesiynol athrawon ac yn eu hyfforddiant cychwynnol. Gallai ysgolion bach, yn arbennig, wynebu anhawster o ran meithrin arbenigedd.

§    Mae pryderon ynghylch a fydd gan ysgolion y capasiti i ddiwallu'r gofynion newydd. Mae'r isafswm sy'n ofynnol ar gyfer CDU bellach yn fwy cymhleth ac ni fydd gan staff ysgolion ddigon o amser neu sgiliau i wneud hyn yn iawn. Mae perygl y gall athrawon geisio nodi ADY drwy ymddygiad ac nid drwy asesiad priodol. Gallai hyn olygu bod yn rhaid i blant 'brofi' bod ganddynt anghenion drwy 'fethu yn gyntaf'.

§    Mae perygl yn sgil y newidiadau y caiff y broblem bresennol o ran llwyth gwaith athrawon ei gwaethygu.

§    Mae goblygiadau i’r Bil o ran y ffordd y mae ysgolion yn cael eu hariannu. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn dirprwyo cyfran uchel o gyllid i ysgolion, gan gynnwys arian AAA. Beth fydd yr effaith ar hyn os bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am fwy o CDUau?

§    Nid yw'r system bresennol o ariannu ysgolion yn gweithio ar gyfer dysgwyr ag AAA/ADY. Y prif ysgogiad i gyllido yw amddifadedd, ac eto nid oes cysylltiad rhwng cyflyrau fel awtistiaeth â ffactorau economaidd-gymdeithasol. Mae ysgolion sydd ag enw da o ran darpariaeth ADY yn denu mwy o ddysgwyr ADY, ond nid ydynt yn cael mwy o arian i wneud iawn am y llwyth gwaith ychwanegol.

§    Ar hyn o bryd, prin iawn yw'r berthynas rhwng awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach. Bydd angen hynny o dan y system newydd.

3.4     Anghenion lefel uwch a grwpiau penodol

§    Dylai fod rhagdybiaeth mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am CDUau dysgwyr ag anghenion llai cyffredin fel nam ar y clyw a nam ar y golwg. Nid oes gan ysgolion y sgiliau na'r wybodaeth i ymdopi â'r rhain eu hunain, nac i wybod pryd i atgyfeirio mewn ffordd briodol at wasanaethau arbenigol.

§    Mae pryder ynghylch sut y bydd y Bil yn berthnasol i grwpiau penodol. Pwy fydd yn gyfrifol am y grwpiau canlynol - addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), disgyblion a addysgir gartref, disgyblion sydd wedi'u gwahardd, disgyblion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), grwpiau anodd eu cyrraedd, a'r rhai ag anghenion iechyd.

§    Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

4.       System gynhwysfawr, o0 i 25 mlwydd oed

§    Yn gyffredinol, mae'r rhanddeiliaid yn croesawu'r dyhead i sefydlu system 0-25 mlwydd oed. Fodd bynnag, gallai hyn arwain at wanhau'r ddarpariaeth.

§    Mae llawer o randdeiliaid yn credu na fydd y Bil yn creu system gynhwysfawr 0-25 mlwydd oed. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ddisgyblion o oedran ysgol statudol a'r rhai sy’n wir yn mynychu'r ysgol (nid yw'n canolbwyntio digon ar ddysgwyr EOTAS a'r rhai sy'n mynd i mewn ac allan o'r system ysgol).

4.1     Y Blynyddoedd Cynnar

§    Nid yw'r Bil yn canolbwyntio digon ar y blynyddoedd cynnar. Fodd bynnag, nid yw'r hyn a olygir gan 'y blynyddoedd cynnar' wedi'i ddiffinio'n ddigonol, a byddai mwy o eglurder yn ddefnyddiol.

§    Mae darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn anghyson ar hyn o bryd, ac yn llwyddo ac yn methu fel ei gilydd. Mae angen i asiantaethau weithio gyda'i gilydd yn fwy i sicrhau bod ADY yn cael eu nodi cyn gynted ag y bo modd.

§    Mae angen hyfforddiant statudol ar ddarparwyr y blynyddoedd cynnar, mae angen cryfhau gwybodaeth am lwybrau atgyfeirio a dylai fod rhwymedigaethau ar ymwelwyr iechyd gan mai nhw yw'r prif bwynt cyswllt.

§    Efallai y bydd angen ailystyried y diffiniad o addysg neu ddysgu er mwyn sicrhau bod ffocws digonol ar agweddau datblygiadol yn y blynyddoedd cynnar.

§    Sut fydd y Bil yn ymdrin â darparwyr gofal plant? (Mae'r Bil yn ymdrin â lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir sy'n derbyn cyllid awdurdodau lleol yn unig.) Bydd meithrinfeydd preifat yn cael arian, ond bydd angen iddynt roi sylw i'r CDU yn unig. Mae angen mynd i'r afael â hyn.

§    Mae'r Bil yn darparu ar gyfer atgyfeiriad iechyd rhwng 0 a 3 mlwydd oed, ond nid ar gyfer atgyfeiriad addysg.

§    Gall Dechrau'n Deg nodi ADY plant ifanc, ond beth am blant nad ydynt yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg? Gall plant o bob lefel o incwm cartref fod ag ADY gan nad yw hyn yn dibynnu ar amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

§    Dylai fod cyfleoedd ar gyfer asesiad llawn i blant o 0 i 3 mlwydd oed, yn hytrach nag aros nes iddynt gyrraedd oedran ysgol. Sut y caiff anghenion plant o 0 i 3 mlwydd oed eu nodi?

§    Mae'r ddarpariaeth ar gyfer atgyfeiriad iechyd yn bwysig. Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol gyfrannu at y fframwaith ADY o enedigaeth plentyn.

4.2     Ôl-16

§    Y gobaith yw y bydd y Bil yn gwella'r broses bontio i’r ddarpariaeth ôl-16. Dylai newidiadau, fel cael rhestr o golegau addysg bellach arbenigol cymeradwy helpu.

§    Bydd gwella'r ddarpariaeth 18-25 oed yn arwain at ofynion o ran gweithlu ac adnoddau. Mae amheuon ynghylch sut y bydd cymorth ADY yn cael ei ddarparu i'r grŵp oedran hwn.

§    Mae'r Bil yn 'colli cyfle' i gefnogi pobl ifanc ag ADY i ymuno â hyfforddiant a chyflogaeth ôl-16.

§    Ni ddylid eithrio dysgu seiliedig ar waith, ond mae'r rhanddeiliaid yn deall y bydd ymestyn dyletswyddau i fusnesau yn y sector preifat yn gwneud y Bil yn fwy cymhleth. Nid yw'n glir sut y byddai system o'r fath yn gweithio. A fyddai busnesau'n barod i gymryd rhan, neu a fyddai hyn yn cael yr effaith anfwriadol o'u gwneud yn llai tebygol o gymryd prentis gydag ADY? Cafwyd awgrym y gellid rhannu'r cyfrifoldeb am CDU rhwng y coleg addysg bellach sy'n darparu'r cymhwyster/cwrs astudio a'r cyflogwr, yn hytrach na bod y cyflogwr yn ysgwyddo'r holl gyfrifoldeb a risg.

§    Dylai'r Bil hefyd ymdrin ag addysg uwch.

§    Yn gyffredinol nid oes digon o adnoddau ar gyfer addysg bellach, sy'n golygu y gallai plentyn gael cefnogaeth ddigonol ar gyfer hyn yn yr ysgol, ond bod y gefnogaeth yn diflannu pan fydd yn cychwyn addysg bellach. Mae'r broses bontio i ddisgyblion o Gyfnod Allweddol 4 i'r chweched dosbarth yn llyfn, ac eto mae'r broses yn gorfod dechrau o'r dechrau eto os byddant yn mynd i ysgol neu goleg addysg bellach gwahanol.

§    Mae'r ffaith bod colegau addysg bellach wedi'u cynnwys yn beth cadarnhaol, ond mae pryderon nad oes ganddynt staff â'r sgiliau i weithredu'r gofynion. Hefyd mae perygl y bydd awdurdodau lleol ac addysg bellach yn brwydro â'i gilydd dros bwy sydd â chyfrifoldeb dros ddysgwr unigol.

§    Mae'n rhaid i'r Cod ddarparu gwybodaeth ddigonol ynghylch sut i reoli proses bontio dysgwyr i fod yn oedolion. Dylai blynyddoedd olaf CDU yn ystod addysg statudol gynnwys cynlluniau ar gyfer y posibilrwydd o bontio i gyflogaeth yn ogystal â pharhau mewn addysg.

§    Tynnodd y rhanddeiliaid sylw at y gorgyffwrdd rhwng ADY a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

4.3     Materion eraill o 0 i 25 mlwydd oed

§    Mae posibilrwydd y bydd y Bil yn cael effaith ar atal tlodi plant os bydd y system newydd yn gweithio'n effeithiol yn y blynyddoedd cynnar.

§    Rhaid i'r system newydd roi ystyriaeth lawn i faterion galluedd meddyliol. Mae angen cael asesiad ffurfiol ynghylch a oes gan ddysgwr dros 16 mlwydd oed neu dros 18 mlwydd oed y galluedd i wneud ei benderfyniadau ei hun. O dan y Bil, mae'n rhaid i bobl ifanc dros 16 mlwydd oed roi eu caniatâd i gael eu hasesu neu gael mynediad i ddarpariaeth. Beth sy'n digwydd pan na allant wneud penderfyniadau priodol eu hunain? (Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer 'cyfeillion achos'.)

§    Mae'r Bil yn ymdrin â phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed, ond mae gwasanaethau pediatrig yn para tan 16 neu 18 mlwydd oed yn unig. Nid yw'r Bil hwn wedi ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion o gwbl. Bydd anawsterau wrth bontio rhwng systemau cyfreithiol plant ac oedolion.

§    Mae angen i'r Bil fod yn gryfach ynghylch trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

5.       Cydweithio aml-asiantaeth

§    Dyma un o'r materion pwysicaf i'r rhanddeiliaid. Maent yn credu bod y system newydd o CDUau yn gyfle i gryfhau arferion cydweithio a rhannu gwybodaeth.

§    Un o'r problemau hirsefydlog yw'r gwahaniaethu artiffisial rhwng iechyd ac addysg. Dylai fod yn un system o safbwynt y teulu.

§    Mae angen i Lywodraeth Cymru alinio targedau ac amcanion ar draws addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol os yw'r Bil hwn am gael unrhyw effaith o gwbl.

5.1     Cyfraniadau gan gyrff iechyd

§    Mae iaith y Bil yn eithaf amwys. Mae geiriad adran 18 yn agored i'w ddehongli o hyd, e.e. y term 'sy’n debygol o fod o fudd'. Mae angen diffiniad clir o'r rôl a fydd gan y byrddau iechyd.

§    Roedd gwahaniaeth barn ynghylch a allai gosod mwy o ddyletswyddau statudol ar fyrddau iechyd greu mwy o ddryswch ac arwain at fwy o ansicrwydd i deuluoedd gyda sefydliadau'n pwyntio bys at ei gilydd. (Gellid dadlau mai dyma'r achos ar hyn o bryd, y mae'r Bil yn ceisio mynd i'r afael ag ef.)

§    Mae pryderon bod y Bil yn ffurfioli'r hyn sy'n digwydd yn awr ac na fydd yn datblygu pethau  mewn ffordd gadarnhaol. Nid yw'r Bil yn ddigon cryf o ran dod â sefydliadau ynghyd.

§    Mae angen i'r Bil ddiffinio ystyr anghenion iechyd. Mae angen mwy o eglurder ynghylch y pethau y mae iechyd yn gyfrifol amdanynt. Er enghraifft, ai addysg neu iechyd sy'n gyfrifol am therapi lleferydd ac iaith?

§    Yn gyffredinol, nid oedd y rhanddeiliaid yn herio'r egwyddor mai barn glinigol gweithwyr iechyd proffesiynol a ddylai benderfynu pa wasanaethau iechyd sy'n cael eu darparu. Fodd bynnag, mae angen mecanwaith ar gyfer cael y bobl gywir i gyfrannu at asesiad. Roedd rhywfaint o anniddigrwydd bod y sector iechyd yn gallu cyfrannu yn ôl ei ddisgresiwn o hyd.

§    Y mater mwyaf cyffredin a'r rhwystr mwyaf yn ystod prosesau datrys anghydfodau yw lle nad yw gwasanaethau addysg yn cael unrhyw fynediad na dylanwad dros ddarpariaeth iechyd a bod y gwasanaeth iechyd yn gwrthod neu'n methu â chynnal trafodaethau. Y broblem o hyd yw sut i gynnal trafodaethau gyda'r sector iechyd ac ymgysylltu'n briodol.

§    Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn rhoi diagnosis, ond nid ydynt yn cymryd camau dilynol drwy ddarparu gwasanaethau.

§    Mynegodd cynrychiolydd o’r sector iechyd bryder y bydd costau sylweddol i'r byrddau iechyd yn sgîl y Bil. Awgrymwyd hefyd nad yw'r Bil yn yn flaenoriaeth ddigonol gan y byrddau iechyd. Y teimlad cyffredinol yw bod y trefniadau newydd yn cael eu gorfodi ar y sector iechyd ac nad yw yn wir yn ymwneud â nhw nac yn eu harddel.

§    Dylai gwasanaethau iechyd gael mwy o rôl mewn ysgolion. Gallai hyn fod yn seiliedig ar y model nyrs ysgol, lle mae'r nyrs yn chwarae rôl o ran rheoli anghenion meddygol disgyblion.

§    Mae cynnwys y gweithwyr iechyd proffesiynol cywir yn allweddol. Fodd bynnag, mae prinder capasiti gweithlu yn gyffredinol, yn enwedig o ran therapyddion lleferydd ac iaith, seicolegwyr addysg a'r rheini sy'n ymwneud ag allgymorth ac ymgysylltu ag ysgolion. Cafodd y model gwaith o amddiffyn a diogelu plant ei grybwyll fel y dull gweithredu delfrydol, o ystyried y cydweithio agored, trawsbynciol sy'n rhan o hyn.

5.2     Rôl y Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig

§    Roedd y rhanddeiliaid yn croesawu rôl y Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig, sydd â'r potensial i fod yn bwysig, ond bydd llawer yn dibynnu ar fanylion yr hyn y bydd yn ei wneud. Nid oedd cynrychiolydd iechyd yn disgwyl i hon fod yn rôl amser llawn, ac mae perygl y gallai gael ei gweld fel rhywbeth ychwanegol.

§    Mae rôl y Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig yn gofyn am berson hynod fedrus a chymwys y gallai'r byrddau iechyd gael anhawster i’w recriwtio. Roedd y rhanddeiliaid yn credu bod y fanyleb swydd yn edrych yn rhesymol, ond nad oes digon o adnoddau ar gyfer y rôl. Roedd rhai'n teimlo nad yr ateb gorau i'r byrddau iechyd o reidrwydd fyddai rhoi'r rôl i un Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig, yn hytrach na chael staff arbenigol ar draws y rhanbarth.

§    Mae angen i'r Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig fod yn rhydd i wneud y gwaith. Mae pryder y bydd gan y Swyddog gyfrifoldebau gwaith eraill.

§    Sut y caiff y Swyddog ei benodi? A fydd staff newydd neu rôl newydd ar gyfer staff presennol?

5.3     O fudd i ddefnyddwyr y gwasanaeth nid i ddarparwyr

§    Yn Lloegr, y profiad yw bod asesiadau'n cael eu cynnal ar sail capasiti'r darparwr yn hytrach nag anghenion y plentyn. Rhaid i hyn fod i'r gwrthwyneb. Thema gyson oedd bod darpariaeth yn rhy aml yn cael ei chynnig ar sail yr hyn sydd ar gael neu'r hyn sy'n gweddu i'r awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd, yn hytrach na'r hyn sydd orau i'r plentyn.

5.4     Materion cydweithio eraill

§    Nid yw'n glir sut y bydd y cydweithio amlasiantaeth yn gweithio lle mae angen comisiynu rhai therapïau ac offer; er enghraifft lle mae angen darpariaeth gan ddarparwr annibynnol (e.e. ffisiotherapi helaeth) neu gadair olwyn gyda sedd addasadwy (a ddisgrifiwyd fel bod yn rhannol gysylltiedig ag iechyd ac yn rhannol gysylltiedig ag addysg).

§    Mae angen i'r Bil roi ystyriaeth lawn i anghenion iechyd meddwl. A fydd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn cael eu cynnwys yn y fframwaith ADY?

§    Mae'r Bil yn galluogi awdurdodau lleol i wneud atgyfeiriad iechyd yn unig. Ni all ysgolion wneud hynny. Os yw awdurdod lleol yn gwneud atgyfeiriad iechyd ar ran ysgol, a fyddai angen iddo gymryd cyfrifoldeb am y CDU cyfan?

§    Mae sicrhau bod cydweithio amlasiantaeth effeithiol yn arbennig o bwysig o ran pontio ac ôl-16.

5.5     Rhannu gwybodaeth

§    Gall anawsterau godi wrth rannu gwybodaeth a phetrustod ymhlith cyrff iechyd oherwydd rheolau cyfrinachedd y GIG. Bydd angen rhagor o fanylion/arweiniad am brotocolau rhannu gwybodaeth.

§    Dylai'r Bil osod trefniadau cydsynio ar gyfer rhannu gwybodaeth. Awgrymwyd y gellid cael un system sy’n cynnwys gwybodaeth am ADY unigolyn, y gallai pob gweithiwr proffesiynol sy'n rhyngweithio gyda'r myfyriwr hwnnw gael mynediad ati.

6.       Tegwch, tryloywder a datrys anghydfodau

6.1     Diffyg cylch gorchwyl y Tribiwnlys mewn perthynas â'r sector iechyd

§    Mae gan randdeiliaid bryderon am y ddwy weithdrefn wahanol ar gyfer cwynion ac apeliadau: drwy'r Tribiwnlys os yw hyn yn ymwneud â'r awdurdod lleol a thrwy'r weithdrefn iawn am gamweddau'r GIG os yw hyn yn ymwneud â'r byrddau iechyd. Mae rhanddeiliaid yn credu bod angen i'r Tribiwnlys fod yn 'un man galw' a all ymdrin â phob cwyn ynghylch ADY, fel bod yna un broses cwynion ac apeliadau ar gyfer ADY. Mae'r Bil yn gwneud ystod o asiantaethau yn gyfrifol am ddiwallu anghenion ADY, ond y Tribiwnlys yn unig sydd â chylch gorchwyl ar gyfer addysg. Dylai cyrff iechyd hefyd fod yn atebol i'r Tribiwnlys.

§    Fodd bynnag, roedd peth cydnabyddiaeth ei bod yn debygol bod gan Lywodraeth Cymru resymau da dros beidio â chynnwys iechyd yng nghylch gorchwyl y Tribiwnlys.

§    Gall gweithdrefn ddeuol ar gyfer cwynion ac apeliadau fod yn gyfleus i sefydliadau, ond nid felly i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

6.2     Rôl llywodraethwyr

§    Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo nad oes digon o bellter proffesiynol rhwng y berthynas llywodraethwr/athro/arweinydd i sicrhau bod pob un yn dwyn y lleill i gyfrif. Gall hyn arwain atynt yn 'glynu at ei gilydd' pan fyddant o dan bwysau ynghylch methiant posibl i gyflawni eu dyletswydd i'r rheini ag ADY. Gallai'r Cod nodi y dylai ysgolion benodi llywodraethwr sy'n canolbwyntio ar ADY a'i fod yn cael hyfforddiant clir a phriodol.

6.3     Cymorth i deuluoedd

§    Mae'r rhanddeiliaid yn credu nad yw'r Bil yn mynd yn ddigon pell i sicrhau bod y system yn llai gwrthwynebus. Bydd y teimlad o ran rhieni yn erbyn yr awdurdod lleol yn parhau. Ar hyn o bryd, mae rhieni yn gweld y system fel 'brwydr' ac yn teimlo bod angen iddynt fod yn 'barod i ymladd'.

§    Mae angen i deuluoedd gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth mor gynnar â phosibl. Mae annibyniaeth y cyngor hwn yn hanfodol. Mae rhieni'n fwy tebygol o dderbyn penderfyniadau nad ydynt o reidrwydd yn eu hoffi os ydynt yn dod o ffynhonnell annibynnol a chredadwy.

§    Nid yw teuluoedd yn gwybod o ble y mae cael gwybodaeth a chyngor. Mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth o ran y ddarpariaeth ôl-16 mlwydd oed, sydd fel 'twll du'. Dylai rhieni gael mynediad at ganllawiau sy'n amlinellu'r hyn y gallant ei ddisgwyl mewn CDU. Bydd hyn yn eu galluogi i ddeall eu hawliau a'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn well os oes ganddynt bryderon am gamau gweithredu a phenderfyniadau'r ysgol neu'r awdurdod lleol mewn perthynas â'u plentyn.

§    Mae angen eiriolaeth ar gyfer rhieni yn ogystal â phlant, yn enwedig oherwydd y bydd gan rieni plant ag ADY eu hanghenion dysgu ychwanegol eu hunain.

§    Roedd newidiadau i gymorth cyfreithiol yn ergyd fawr i deuluoedd o ran cael mynediad i eiriolaeth a chynrychiolaeth. Ceir rhai pryderon ynghylch lefel y mynediad yng Nghymru i gynrychiolaeth gyfreithiol sy'n arbenigo yn y system Gymreig. Mae angen i'r system newydd fod yn fwy rhagweithiol o ran cynnig cyngor a gwybodaeth annibynnol yn gynnar.

§    Mae angen i awdurdodau lleol ddarparu mwy o wybodaeth ynghylch beth yw'r gyfraith a pha hawliau sydd gan ddysgwyr ag ADY a'u teuluoedd. Y peth allweddol er mwyn osgoi cwynion yw gweithio gyda theuluoedd o'r cychwyn cyntaf, ond mae angen amser i wneud hyn.

6.4     Mynediad at wasanaeth  eiriolaeth annibynnol

§    Dylai eiriolaeth fel cymorth fod ar gael gan ffynhonnell annibynnol o'r camau cynnar i osgoi anghytundeb hyd at y camau datrys anghydfod. Mae angen cymorth ar deuluoedd 'o'r dechrau i'r diwedd', gan gynnwys pan fyddant yn mynychu tribiwnlysoedd.

§    Dylai'r Bil ddiffinio beth yw person 'annibynnol'. Mae pryder y gallai cyfreithwyr neu arbenigwyr ar dâl geisio cymryd rôl 'person annibynnol' wrth roi cyngor. Ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd.

§    Mae'r system a'r ddarpariaeth a gynigir yn rhy aml yn seiliedig ar y darparwr yn hytrach na'r dysgwr, felly mae'n rhaid i'r dysgwr gyd-fynd â beth bynnag sydd ar gael. Dylai gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wella hyn.

§    Gall mynediad at eiriolwr neu gyfaill achos i weithredu ar ran y dysgwr neu'r teulu helpu i leddfu achosion o wrthdaro.

§    Nid yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer partneriaethau â rhieni. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn arwyddo contractau gyda sefydliadau fel SNAP i ddarparu gwasanaethau partneriaeth â rhieni.

6.5     Goblygiadau i'r Tribiwnlys

§    Mae'n debygol y bydd llawer mwy o alw gan deuluoedd ar y Tribiwnlys, yn enwedig yn y tymor byr, i awdurdodau lleol gymryd cyfrifoldeb am CDU eu dysgwr. Ar hyn o bryd dim ond pwll bach o aelodau’r Tribiwnlys sy'n bodoli. Mae hyn yn arwain at oblygiadau o ran adnoddau a chanfyddiadau o ddidueddrwydd a thegwch, yn enwedig os yw nifer yr achosion yn cynyddu.

§    Mae teimlad hefyd nad oes gan aelodau panelau datrys anghydfod ddigon o brofiad mewn materion ADY, a bod hyn yn effeithio ar degwch a hygrededd eu dyfarniadau. Bydd angen mwy o hyfforddiant arnynt.

§    Gallai nifer yr achosion sy'n mynd i'r Tribiwnlys ostwng pe bai mwy o gyfryngu i leddfu achosion o wrthdaro.

§    Mae faint o waith sydd gan y Tribiwnlys wedi codi'n sylweddol yn Lloegr, lle mae'r system tribiwnlys o dan bwysau aruthrol yn sgil tua 300 o apeliadau bob mis.

§    Dylid gosod amserlenni ar gyfer gwaith y Tribiwnlys. Dylai'r Bil nodi faint o amser y dylai'r Tribiwnlys ei gymryd wrth ystyried achos (gallai hyn fod yn y Cod).

§    Mae angen digon o ddannedd a phwerau gorfodi ar y Tribiwnlys. Nid oes digon o bwerau yn y Bil i'r Tribiwnlysoedd orfodi eu gorchmynion.

6.6     Modelau eraill

§    Awgrymwyd bod gan yr Alban system dribiwnlys dda y gallai Llywodraeth Cymru ei defnyddio i ddylanwadu ar y trefniadau yng Nghymru.

7.       Gweithredu a goblygiadau ariannol

§    Roedd tair prif thema yn codi'n rheolaidd: arian, adnoddau dynol a llwyth gwaith.

§    Roedd bron pob un o'r cyfranogwyr yn pryderu na fydd digon o adnoddau i roi'r diwygiadau ar waith, ac felly na fydd y Bil yn cael yr effaith a fwriadwyd.

7.1     Goblygiadau o ran adnoddau

§    Roedd pobl yn cytuno ar y cyfan bod adnoddau'n broblem fawr nad oes unrhyw un yn sôn amdani. Nid oes digon o adnoddau ar hyn o bryd, ac yn sicr, ni fydd digon o adnoddau i gyflwyno'r Bil, oni bai bod rhagor yn cael eu darparu. Mae rhoi'r diwygiadau ar waith ar adeg o gyfyngiadau ariannol yn gwneud pethau'n fwy heriol.

§    Roedd y rhanddeiliaid yn dadlau ynghylch amcanestyniad Llywodraeth Cymru y bydd y diwygiadau yn niwtral o ran cost, a hyd yn oed yn arbed arian.

§    Gallai fod buddion ac arbedion hirdymor os bydd y diwygiadau yn wir yn gweithio, ond bydd angen llawer o fuddsoddiad ymlaen llaw i wireddu hyn.

§    Mae Cydlynwyr AAA yn brwydro o hyd am adnoddau prin. Mae'n anodd gweld sut y bydd y Bil yn newid oni bai bod cynnydd yn y cyllid hefyd.

§    Mae angen i'r trefniadau a'r fformiwla ar gyfer cyllido llywodraeth leol fod yn adlewyrchiad teg o'r adnoddau sy’n angenrheidiol i wneud darpariaeth ADY.

§    Mae angen i'r cyllid ddilyn y plentyn, fel y bydd cyn lleied â phosibl o darfu ar y plentyn os bydd yn symud rhwng ysgolion.

§    Mynegodd cynrychiolydd iechyd bryder y bydd costau sylweddol i'r byrddau iechyd yn sgîl y Bil.

7.2     Cynllunio hirdymor

§    Mae'r Bil yn cael ei groesawu'n helaeth mewn egwyddor, ond mae angen adnoddau a hyfforddiant er mwyn ei roi ar waith yn effeithiol.

§    Mae amseru'r newid i'r trefniadau newydd yn bwysig. Gallai'r awydd i osod y system newydd yn gyflym olygu amserlen fer ar gyfer cyflwyno, a mwy o bwysau ar y rheini sy'n gyfrifol am ddarparu.

§    Mae angen gosod seiliau cadarn a chynllunio'n briodol er mwyn gweddnewid y system. Mae'n cymryd amser i symud i fodel o gyd-gynhyrchu.

§    Nid oes modd rhoi diwygiadau ar waith mewn ffordd rhad. Mae angen cyllid ac adnoddau priodol. Mae angen i ni fuddsoddi yn ein plant a phobl ifanc sydd ag ADY a'u helpu i wireddu eu llawn botensial. Bydd hyn yn arwain at fanteision economaidd ac ariannol yn yr hirdymor, er enghraifft, y posibilrwydd o leihau faint o bobl sy’n mynd i’r carchar.

§    Beth sy'n digwydd yn ystod y cyfnod pontio? Mae problem bosibl bod awdurdodau lleol eisoes yn symud i ffwrdd oddi wrth y system bresennol.

7.3     Arwyddocâd y Cod ADY

§    Mae cod gorfodol yn allweddol o ran cysondeb a chanlyniadau dymunol, yn hytrach na'r cod dewisol sy’n bodoliar hyn o bryd. Mae angen i'r Cod fod yn ddigon rhagnodol, er enghraifft gan ddefnyddio 'rhaid' yn hytrach na 'dylid'.

§    Bydd angen craffu'n drylwyr ar y Cod ADY er mwyn deall sut y bydd y fframwaith y mae'r Bil yn ei osod yn gweithio'n ymarferol.

§    Mae pryder cyffredinol ynghylch faint o fanylion sy'n cael eu gadael i'r Cod. Awgrymodd rhai cynrychiolwyr nad oedd y broses o ddatblygu'r Cod yn ddigon tryloyw. Mae angen i'r Cod fod yn destun ymgynghori a chraffu. (Mae'r Bil yn gofyn am ymgynghoriad ar y Cod, ond bydd yn cael ei wneud o dan weithdrefn negyddol y Cynulliad.)

§    Faint o gyfraniad a fydd gan y trydydd sector o ran rhoi hyn ar waith?

7.4     Cyflwr ysgolion

§    Nodwyd cyfleusterau ffisegol ysgolion fel rhwystr o ran rhoi'r Bil ar waith. Dywedodd un rhiant nad yw rhai ysgolion yn ystyriol o anabledd oherwydd eu hoedran. Nid oes gan rai ysgolion doiledau i'r anabl, ac yn achos y rheini sydd â thoiledau, nid ydynt bob amser yn agos at yr ystafelloedd lle caiff myfyrwyr ag ADY eu haddysgu.

7.5     Atebolrwydd ysgolion

§    Fel arfer, caiff ysgolion eu barnu yn ôl deilliannau a chofnodion presenoldeb disgyblion Blwyddyn 11. Gall disgyblion ADY effeithio ar y deilliannau hyn, a gall hyn eu harwain i feddwl bod yr ysgolion yn eu gwthio i'r cyrion ac yn eu stigmateiddio. Dadleuwyd bod angen system optio allan o ran atebolrwydd, lle nad yw'r ffaith bod myfyrwyr ADY ar y gofrestr yn effeithio'n andwyol ar ystadegau ysgolion.


 

8.       Materion eraill

§    Mae'r ddarpariaeth Gymraeg wedi cael ei chryfhau ers y Bil drafft, ond mae angen ei chryfhau ymhellach. Dylid gosod y term 'camau rhesymol' yn lle'r term 'ymdrechion gorau'. Cafwyd enghraifft anecdotaidd lle mae awdurdodau lleol yn annog rhieni i gofrestru plant mewn ysgol cyfrwng Saesneg lle mai eu dewis yw cyfrwng Cymraeg.

§    Sut fydd y system newydd y mae'r Bil yn ei sefydlu yn cyfrif am y nifer gynyddol o ddisgyblion â Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol?

§    Dylid rhoi statws cryfach i farn y plentyn ynghylch i ba ysgol yr hoffai fynd mewn penderfyniadau ynghylch derbyniadau i ysgolion.

§    Yn gyffredinol, mae'r mynediad at wasanaeth seicolegwyr addysg yn annigonol.

§    Mae angen canllawiau llwybrau penodol ynghylch anabledd ar gyfer ysgolion. Dylai gofyniad am hyn fod ar wyneb y Bil. Prin fydd yr atebolrwydd heb ofyniad o'r fath.

§    Prin iawn yw'r sôn am ofal cymdeithasol yn y Bil. Mae angen rhyngwyneb effeithiol rhwng addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

§    Dylai Llywodraeth Cymru fwrw golwg ar sut y mae'r diwygiadau'n gweithio yn Lloegr. Mae cyfle da i ddysgu o gamgymeriadau ac o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda. Er enghraifft, y teimlad oedd bod y canllawiau yn gliriach yn Lloegr o ran sut y dylai'r sector iechyd ac addysg gydweithio â'i gilydd.

§    Mae angen ystyried y Bil o safbwynt hawliau plant. Mae angen i'r system newydd sicrhau bod asesiad yn cael ei roi i bob plentyn y mae arno’i  angen asesiad ac mae angen i'r amserlenni wella'n aruthrol. Mae angen i'r Bil/Cod osod amserlenni pendant neu ni fydd modd trechu'r broblem bresennol o ran yr amser y mae asesiadau’n eu cymryd.

§    Mae rhai rhanddeiliaid yn credu bod angen i'r Bil fod yn gryfach mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal.

§    Nodwyd bod anghenion dysgu ychwanegol bellach yn fwy cyffredin oherwydd bod cyfradd uwch o fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar yn goroesi. Mae angen i ysgolion a phenaethiaid roi mwy o flaenoriaeth i anghenion dysgu ychwanegol.

§    Dylai'r Bil a'r Cod osgoi termau fel 'os yw'n briodol', oherwydd eu bod yn agored i gael eu dehongli’n eang.